be dwi'n wneud . . . .

lle gwaith & diddordebau

8.5.06

Gwefan newydd

Martin o yourmindseye wedi gwneud gret o job ar ein gwefan newydd. Rili hoff o'r dylunio. Dechrau paratoi i fynd allan i Wlad y Basg i weld gem Cymru yn erbyn y Basgwyr ac i ddechrau gwaith paratoi i rhaglen Stwffio S4C. Wrthi'n darllen El Hijo del Acordeonista gan Bernado Atxaga & darllen papurau newydd ar y we i bracteisio'r Sbaeneg ychydig cyn mynd. Bydd y rhaglen dipyn yn wahanol i un Dudley, wedi ei anelu at blant.

28.4.06

Erthyglau diddorol iawn yn yr Economist wythnos diwethaf yn edrych ar beth fydd dyfodol cyfryngau yn gyffredinol - mae'n amlwg fod yr hen gwmniau mawr a corfforaethau fel y BBC trwy eu fforwm Creative Futures yn sgrablo i weld beth fydd dyfodol popeth mewn byd diwifr sydd ddim yn hidio dim am rhai o'r hen reolau. Dwi'n amau fod y ffordd yn weddol glir yn barod, a mae'r cliw i gael wrth edrych ar pa mor boblogaidd ydi rhagleni realiti - mae pobl isio cymeryd rhan, bod hynny trwy gemau, blogio, rhoi lluniau neu ffilmiau i fyny ar y we dros eu ffon - a mae costau'r pethau yma'n mynd yn llai ac yn llai.

27.4.06

nodyn cyntaf i'r lle gwaith . . . .

Hwn yw'r nodyn cyntaf i'r blog gwaith. Be dwi'n gobeithio gwneud gyda hwn? Cwestiwn mawr . . . bydd yna gysylltiadau yma i lyfrau, erthyglau, unrhywbeth o ddiddordeb sydd o werth i nid yn unig gwaith Pawb ond prosiectau, syniadau newydd - helpu fi gadw trac gymaint ag unrhyw un arall! Fydd o'n ddwyieithog i raddau, ond gawn ni weld.