be dwi'n wneud . . . .

lle gwaith & diddordebau

28.4.06

Erthyglau diddorol iawn yn yr Economist wythnos diwethaf yn edrych ar beth fydd dyfodol cyfryngau yn gyffredinol - mae'n amlwg fod yr hen gwmniau mawr a corfforaethau fel y BBC trwy eu fforwm Creative Futures yn sgrablo i weld beth fydd dyfodol popeth mewn byd diwifr sydd ddim yn hidio dim am rhai o'r hen reolau. Dwi'n amau fod y ffordd yn weddol glir yn barod, a mae'r cliw i gael wrth edrych ar pa mor boblogaidd ydi rhagleni realiti - mae pobl isio cymeryd rhan, bod hynny trwy gemau, blogio, rhoi lluniau neu ffilmiau i fyny ar y we dros eu ffon - a mae costau'r pethau yma'n mynd yn llai ac yn llai.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Home